Eich Toiledau Ysgol Chi - Sut beth ydyn nhw!
Ydy eich toiledau ysgol chi yn rhai ych-a-fi?
Allai’r ysgol, a/neu eich cyd-ddisgyblion, edrych ar eu hôl nhw’n well?
Fyddai’n well gyda chi ddal nes eich bod chi adre?
Oes yna adegau yn ystod y dydd pan nad ydych chi’n cael defnyddio’r toiledau ysgol?
Efallai eich bod chi’n credu mai eich toiledau ysgol chi yw’r gorau yng Nghymru. Rydyn ni eisiau i’n canllawiau ni helpu gymaint o ddisgyblion â phosibl. Gallwch chi ein helpu ni i wneud hynny drwy lenwi’r holiadur a rhoi gwybod inni beth rydych chi wedi ei weld yn eich ysgol chi.
Byddwn ni’n ystyried pob holiadur sy’n cael ei ddychwelyd atom ni, er mwyn inni allu gwella ein canllawiau. Gallwch chi ddarllen y canllawiau drwy ddilyn y dolenni isod. Bydd eich atebion chi yn helpu i wella toiledau ysgol ar eich cyfer chi, eich ffrindiau, a’ch cyd-ddisgyblion ym mhob cwr o Gymru.
Ar ôl i chi gwblhau’r holiadur, a wnewch chi ei ddychwelyd at:
Stephen Jones
Llywodraeth Cynulliad Cymru
APADGOS
Ty'r Afon
Heol Bedwas
Bedwas
Caerffili.
CF83 8WT
Ar ôl i chi gwblhau’r holiadur, a wnewch chi ei ddychwelyd at: pagaf@wales.gsi.gov.uk
Cliciwch yma i weld yr ymgynghoriad (cyswllt allanol)


