Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Ysgol Gynradd y Coed Duon: Siop Goffi Masnach Deg

Dyma beth ddywedodd disgyblion Ysgol y Coed Duon am y profiad o sefydlu siop goffi Fasnach Deg.

Cameron Hodges: “Yn y dyfodol bydd angen i ni fod yn gwybod sut i ddelio ag arian a dod o hyd i’r fargen orau fel na chawn ein gwneud. Bydd yn helpu ein sgiliau byw, gall ein helpu i gael swydd.”

Bailey Vokes: “ Os ydych eisiau bod yn entrepreneur neu ddechrau eich busnes eich hun, yna mae hwn yn ddechrau gwych. Fe’m dysgodd sut i drin arian, sut i ddarbwyllo, sut i drin pobl, sut i fod yn gadarn ac yn deg, a meddwl ddwywaith cyn gwneud penderfyniad mawr.”
“Fe’m cadwodd yn brysur gan wneud i mi feddwl sut y gallwn wneud llawer o arian, yn hytrach na chwarae fy ngemau consol. Roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau mabwysiadu anifail felly rhoddodd i mi’r cymhelliant i wneud yn well byth.”

Carly Potter: “Fe’m helpodd i ddatblygu fy sgiliau allweddol, megis sgiliau cyfathrebu, rhifau a datrys problemau. Cawsom gryn dipyn o broblemau, ond drwy weithio gyda’n gilydd, fe wnaethom lwyddo i’w datrys.”

Shannon Morgan: “Fe’m helpodd i fod yn fwy hyderus a dangos i bobl, dim ond oherwydd ein bod yn ifanc, nad yw’n golygu na allwn greu busnes llwyddiannus. Rwy’n teimlo’n falch iawn ohonof fi fy hun.”

Grace Bagshaw: “Cawsom drafodaeth ddosbarth am wahanol syniadau, ond roeddwn i’n meddwl y byddai’n syniad ysbrydoledig cynnal siop goffi. Roeddwn i hefyd yn meddwl y gallem oll wisgo ein Hetiau Meddwl Edward de Bono i wneud i hyn weithio. Gwnaeth i ni feddwl am bethau nad oeddem yn meddwl amdanynt fel arfer. Buom yn meddwl am bethau oedolion fel: craffter ariannol, bod yn gwrtais wrth gwsmeriaid, bod yn gwbl hyderus a gwenu ar bobl. Rhaid i chi oresgyn eich nerfau a bwrw iddi. Rydych yn dysgu am arian ac am sut i’w wario’n ddoeth.

Allwch chi ddim meddwl, o fe brynaf fi hwnnw, oherwydd mae’n rhaid i chi wneud elw. Roedd yn gyfle ardderchog i bobl. Roeddwn i wrth fy modd gyda hynny ac rwy’n credu y dylem annog plant i redeg busnes. Ni all popeth fod yn ffansi gennych chi, os yw’n costio llawer mae angen i chi feddwl am yr arian. Rhaid i chi gael uchafswm, cyllideb. Dylech annog aelodau’r tîm i fod yn gadarn bob amser, heb fod yn annifyr. Rhaid i chi fod yn gadarn wrth roi swyddi pwysig arbennig i bobl. Mae i gyd yn ymwneud â gwaith tîm. Ni, nid fi, sy’n bwysig!!”

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website