Ysgol Gynradd Llangyfelach: Hawliau Plant
Fel cyflwyniad i hawliau plant, fe weithiodd y disgyblion ar y 42 erthygl gan ddechrau gyda gweithgaredd balŵn, gan benderfynu pa hawl oedden nhw’n ei feddwl oedd bwysicaf. Fe wnaethant ddarlunio hyn fel rhan o arddangosfa ac yna fe wnaethant greu hysbysebion ar gyfer hawliau plant gan ddefnyddio technegau cyflwyno amlgyfrwng ynghyd â cherddoriaeth er mwyn creu neges bwerus.
Mae hyn yn cael ei ddefnyddio i helpu plant yn nosbarthiadau eraill yr ysgol i ddysgu am hawliau plant a sut maent yn teimlo amdanynt. Fe wnaeth y disgyblion hefyd roi sylwadau ar y gweithgareddau a chawsant eu cyffroi a’u grymuso gan yr holl bwnc. Roeddent yn awyddus i anfon eu fideos at bobl “bwysig” y dylent “wybod amdanynt”. Bydd hyn yn awr yn fodd o roi mwy o bwyslais ar lais y disgyblion yn yr hyn a wnawn yn Llangyfelach.


O ganlyniad, rydym wedi cofrestru am y wobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau.
“Dwi’n meddwl y dylai pawb wneud ei ran i helpu ac efallai wedyn, rhyw ddydd, bydd hawliau plant yn dod yn realiti i holl blant y byd.” – Lauren Johns
“Roeddwn i wir yn hoffi’r ffordd yr oeddem yn dysgu am hyn” – Olivia Arnold
“Fe wnaeth dysgu am hyn wneud i mi deimlo’n arbennig” – Emily Morgan


