Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Gwerthuso deunyddiau hyfforddiant cynghorau ysgol

Group of pupils at a secondary school in LlandysulMae gennym gyngor ysgol ers dros bedair blynedd bellach. Mae aelodaeth y Cyngor yn newid o flwyddyn i flwyddyn. Mantais hyn yw ein bod yn rhoi cyfle i gynifer o ddisgyblion ag sy’n bosib i gymryd rhan mewn proses ddemocrataidd. Ar y llaw arall mae hi’n anodd cael dilyniant yn y gwaith ac mae tueddiad i ailymweld a’r un meysydd.

Dewis Cynrychiolwyr dosbarth:

 Rydym yn ysgol o 600. Dewisir cynrychiolydd o bob dosbarth gydag eilydd i gymryd ei le mewn cyfarfodydd pan fo’n absennol. Yn ogystal mae ‘r prif ddisgyblion ar y Cyngor.

Gwneir y dewis yn y sesiwn ABCh Cynnydd cyntaf ymhob blwyddyn ysgol. Mae 12 gwers ABCh Cynnydd mewn blwyddyn dan ofalaeth yr athrawon dosbarth. Dyma’r cyfle pennaf i’r cynrychiolwyr adrodd yn ol a thrafod gwaith y cyngor ond gallant hefyd ddefnyddio sesiynau cofrestru boreol. Yn y sesiwn gyntaf hon y mae pob athro dosbarth yn rhoi cyflwyniad byr ar ddemocratiaeth a’i ystyr. Wedyn mae ‘r dosbarth yn rhoi cyfle i gyflwyno enwau. Os oes mwy nag un gofynnir i’r disgyblion hynny roi cyflwyniad er mwyn “gwerthu” eu hunain ar gyfer y swydd. Ceisir cael cydbwysedd rhyw e.e. os yw’r cynrychiolydd yn fachgen, mae’r eilydd yn ferch. Y disgyblion sy’n dewis drwy bleidleisio’n gyfrinachol. Gan bod y dosbarthiadau cofrestru yn allu cymysg llwyddir i gael amrywiaeth a rhoi cyfle cyfartal i bawb.

Ar ol derbyn yr hyfforddiant sylweddolir y gellir dewis cynrychiolwyr dosbarth mewn ffyrdd llawer mwy diddorol a bwriedir cyflwyno rhain yn y flwyddyn ysgol newydd.

Cynnal cyfarfodydd:

Fel arfer gwahoddir y cynrychiolwyr dosbarth i gyfarfodydd drwy lythyr ffurfiol gydag agenda ynghlwm. Cynhelir cyfarfodydd yn ystod yr amser cinio yn llyfrgell yr ysgol a rhoddir cyfle i’r cynrychiolwyr fynd am ginio cynnar. Prin iawn fu’r absenoldebau ac yn y rhan fwyaf o achosion gyrrwyd yr eilydd yn eu lle.

Eleni dechreuwyd cynnal cyfarfodydd mewn gwersi yn ogystal. Mae hyn yn rhoi llawer mwy o lonydd ac amser i drafod a llwyddir i roi mwy o statws i’r weithgaredd. Cyn belled nad oedd yr un pynciau yn cael eu taro fwy nag unwaith roedd y staff yn gefnogol. Cyfuniad o’r ddau sy’n ddelfrydol.

Arferion Da:

  • Disgrifiad swydd i bob cynrychiolydd
  • Cyfansoddiad
  • Annerch y llywodraethwyr unwaith y tymor
  • Lap top ar gyfer yr ysgrifennydd i wneud cofnodion mewn cyfarfodydd
  • Hyfforddiant ar gyfer ysgrifennydd y cyngor gan ysgrifennydd yr ysgol
  • Disg gyda cofnodion engreifftiol a templates llythyrau
  • Llythyr adref i bob cynrychiolydd i ddangos pwysigrwydd y swydd o fewn bywyd ysgol

“Rwyf yn hoffi bod yn rhan o’r Cyngor Ysgol oherwydd rwyf yn hoffi meddwl bod llais y disgyblion yn cael ei glywed.”
Anna Blwyddyn 8

“Y mae hi’n syniad da cael Cyngor Ysgol oherwydd dyma un o’r ffyrdd gorau i wella’r ysgol “
Ioan Blwyddyn 9

“Mi ddes i’n gynrychiolydd dosbarth oherydd roeddwn i eisiau’r cyfle i gyfrannu i fywyd yr ysgol”
Ioan Blwyddyn 9

“ Mae’n brofiad da cael gweithio gyda disgyblion hyn a staff yr ysgol“
Ioan Blwyddyn 9

“Un o’m prif lwyddiannau oedd cael ffynhonnau dwr“
Ioan Blwyddyn 9

“Mae’n syniad da cael Cyngor Ysgol er mwyn gwella petha a chael gwybod be mae disgyblion eisiau a ddim eisiau”
Tomos R Blwyddyn 7

“ Mae’r Cyngor Ysgol yn syniad da achos mae’n gwella yr ysgol. Mae’n gwneud yr ysgol yn iach ac yn saff”
Tomos R. Blwyddyn 7

“Mae hi’n syniad da cael Cyngor Ysgol oherwydd mae’n rhoi’r hawl i blant roi eu barn”
Catherine Blwyddyn 7

“Mi ddes i’n gynrychiolydd dosbarth drwy gael pobl yn dewis fi ac yna pleidleisio.”
Catherine Blwyddyn 7

“Un ffordd o ddewis cynrychiolydd dosbarth yw cael cwis – Oes gennych chi’r doniau i fod ar y Cyngor?”
Sophia Blwyddyn 7

“Un syniad da yw cael lluniau o lwyddiannau’r Cyngor ac aelodau’r Cyngor o gwmpas yr ysgol”
Sophia Blwyddyn 7

“Cyngor Ysgol yw lle mae plant yn dod at ei gilydd i sortio problema”
Geraint Blwyddyn 7

“Mae hi’n syniad da cael Cyngor Ysgol oherwydd mae’n helpu plant”
Geraint Blwyddyn 7

“Mi ddes i’n gynrychiolydd dosbarth oherwydd o’n i’n meddwl y basa’n hwyl”
Geraint Blwyddyn 7

“Mae’n dda gweithio gyda staff a disgyblion gwahanol ar y Cyngor”
Geraint Blwyddyn 7

“Un o’n llwyddiannau yw gwneud yr ysgol yn lle iach”
Geraint Blwyddyn 7

“Dwi wedi datblygu lot o syniadau ers dwi ar y Cyngor”
Geraint Blwyddyn 7

 

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website