Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Ethol Cyngor yr Ysgol

Pupil at Penglais High SchoolMae Penglais yn ysgol gyfun fawr yn Aberystwyth, Ceredigion. Mae gan yr ysgol gyngor ysgol cadarn sy’n cymryd rhan weithredol ym mywyd yr ysgol, ac sydd hefyd wedi cyfrannu i drafodaethau ynglŷn â pholisïau a materion sy’n effeithio ar bobl ifanc.

Mae’r astudiaeth achos hon yn canolbwyntio ar y broses o ethol cyngor yr ysgol, ac ar bwysigrwydd cyfathrebu, er mwyn i bawb ddeall yn iawn beth yw’r swyddogaethau, y cyfrifoldebau a’r disgwyliadau.

Dyma’r broses o ethol Cyngor Ysgol ym Mhenglais – yn gryno iawn:

  • Dechrau mis Medi - anfon gwybodaeth a phapurau enwebu mas i diwtoriaid dosbarth Blynyddoedd 8 - 12, gydag amlinelliad o’r broses o enwebu am gynrychiolwyr dosbarth i eistedd ar y Cynghorau Blwyddyn. Cliciwch yma am ragor o fanylion.
  • Yr un pryd mae Memo yn cael ei anfon i diwtoriaid dosbarth Blwyddyn 7, yn egluro’r broses ar gyfer disgyblion Blwyddyn 7, ac awgrymu ffyrdd y gallen nhw weithredu dewis a menter yn y tymor sydd ar ddod.
    • Canol mis Medi - dydd yr etholiad. Yn y Brif Neuadd mae blychau pleidleisio du a bythau pleidleisio (wedi eu benthyg gyda swyddog etholiadau’r Cyngor Sir) a bwrdd gyda chlercod.
    • Mae pob dosbarth yn cyrraedd yn ei dro gyda’u hathrawon, fesul grŵp blwyddyn. Rydyn ni’n caniatáu un wers (60 o funudau) ar gyfer pob un.
    • Mae’r disgyblion yn sefyll mewn rhes; gydag esboniad byr o’r drefn bleidleisio.
    • Mae pob disgybl yn mynd at y clercod ac yn cael ei farcio i ffwrdd.
    • Mae’r disgyblion yn mynd i’r bwth pleidleisio sydd wedi ei farcio ar gyfer eu ffurflen ac yn darllen rhestr o’r enwebedigion ar gyfer eu ffurflen.
    • Mae’r disgyblion yn pleidleisio trwy ysgrifennu enw un bachgen ac un ferch. Rydyn ni’n mynnu bod y pleidleisio yn gyfrinachol.
    • Mae’r disgyblion yn dodi’r bonyn pleidleisio yn y blwch pleidleisio du ar gyfer eu grŵp blwyddyn.
    • Mae eisiau diwrnod ar gyfer y broses gyfan. Mae disgyblion y chweched dosbarth yn cael pleidleisio drwy’r dydd, pan yw’n gyfleus.
    • Y bore wedyn, mae tîm o ddisgyblion Blwyddyn13 yn gwneud y cyfrif.
    • 12.45 (yn ystod yr awr ginio) mae cynghorydd lleol/un o lywodraethwyr yr ysgol yn cyhoeddi’r canlyniadau yn ffurfiol o lwyfan y brif neuadd.
    • Mae’r canlyniadau yn cael eu gosod lan.
    • Mae nodyn i longyfarch yn cael ei anfon i bob cynrychiolydd dosbarth,
      yn egluro eu swyddogaeth a’r cam nesaf ym mhroses yr etholiad.
  • Mae’r penaethiaid blwyddyn hefyd yn derbyn memo, ac yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf maent yn trefnu cyfarfod i bob disgybl a etholwyd (8 bachgen ac 8 o ferched ym mhob grŵp blwyddyn), sydd yn eu tro yn ethol un bachgen ac un ferch i fod yn gynrychiolwyr blwyddyn iddyn nhw a ffurfio pwyllgor cyngor yr ysgol.
  • Mae pob un o gynrychiolwyr Blynyddoedd 8 -13 yn derbyn llythyr llongyfarch ar gael eu hethol i gyngor yr ysgol.
  • Cynhelir cyfarfod pontio o un awr, gyda’r hen bwyllgor a’r un newydd gyda’i gilydd er mwyn hyrwyddo parhad. Yna mae awr o bentyrru syniadau gyda’r pwyllgor newydd er mwyn sefydlu eu blaenoriaethau.
  • Mae’r blaenoriaethau yn cael eu hysgrifennu lan ar y ford yn swyddfa’r CY ac maen nhw yno i bob disgybl yn yr ysgol eu gweld.
  • Cynhelir etholiadau Blwyddyn 7 ar ddechrau’r tymor newydd ym mis Ionawr, pan fydd y disgyblion wedi cael cyfle i ddod i ‘nabod ei gilydd a dangos cyfrifoldeb

Mae enghraifft o erthygl i’r wasg leol i hybu ymwybyddiaeth o gyngor yr ysgol ar gael yma.

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website