Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Cyngor Plant yn Sir Fynwy

3 children around a table with heart paper shapesMynychodd plant o 22 o ysgolion o bob cwr o Sir Fynwy Drydedd Gynhadledd Cyngor y Plant yn Neuadd y Sir, Cwmban ad Ddydd Iau 5 Hydref, 2006.

Cafodd plant 6 - 11 blwydd oed y cyfle i ddweud wrth Cynghorwyr Sir, ac aelodau a gweithwyr y Partneriaeth beth maen nhw yn eisiau o'r gwasanaethau maen nhw yn eu darparu.

Yn ystod y digwyddiad anogwyd 90 o blant i leisio eu barn ar dri chwestiwn allweddol, wedi'u seilio ar y materion a godwyd amlaf gan blant yn ystol sesiynau ymgynghori. Roedd y rhain yn cynnwys: Parcau a Cyfleusterau Chwarae, yr Amgylchedd, a Chinio Ysgol Iach. Cafodd y plant hefyd y cyfle i ofyn cwestiynau i'r Cynghorwyr Sir am faterion sydd yn effeithio arnynt yn ystod Sesiwn Holi a ddigwyddodd yn Siamber y Cyngor.

Children seated at the Welsh AssemblyTrafododd yr athrawon rol Cynghorau Ysgol a dysgon nhw wahanol dechnegau o gasglu safbwyntiau plant gyda chymorth gan hwyluswr o Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Rhoddwyd y wybodaeth a gasglwyd wrth ymgynghori a'r plant yn ystod y diwrnod mewn adroddiad, a anfonwyd i bob person a fynychodd y diwrnod - yn cynnwys crynhoad hawdd i'w ddefnyddio ar gyfer pob plentyn a fynychodd. Mae'r plant hefyd wedi derbyn cylchlythyron er mwyn rhoi gwybod iddynt am beth sydd wedi digwydd ai peidio fel canlyniad i'w mewnbwn yn ystod y diwrnod hwn.

Manylion cyswllt:

Enw: Caryl Bastable - Arweinydd Tîm Ymrwymiaeth Plant a Phobl Ifanc , Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir Fynwy

Rhif ffôn: 01495 7611698

E-bost: carylbastable@monmouthshire.gov.uk

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website