Newyddion
24.06.2011
TAAAC - Hawliau newydd i blant
Mae deddf newydd yng Nghymru wedi rhoi’r hawl i blant wneud Apêl Anghenion Addysgol Arbennig a Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC). O’r blaen, rhieni yn unig oedd â’r hawl hwn.
Mae’r hawliau newydd yn mynd i gael eu profi mewn ardaloedd sy’n perthyn i ddau Awdurdod Lleol – Wrecsam a Sir Gaerfyrddin. O Wanwyn 2012 bydd plant a phobl ifanc yn yr ardaloedd hyn yn gallu gwneud apeliadau a hawliadau eu hunain i TAAAC. Ar ôl y prawf mae’n debygol y bydd plant a phobl ifanc o Gymru gyfan yn cael yr un hawliau.
Nid yw hyn yn effeithio ar hawliau rhieni. Mae gan rieni yr un hawliau o hyd i wneud apeliadau a hawliadau i TAAAC.
Yn TAAAC, rydym yn gweithio ar becyn gwybodaeth a ffurflenni newydd i blant, rhieni a chyfeillion achos ac yn paratoi gwefan newydd. Disgwyliwn y bydd hyn i gyd yn barod erbyn Gwanwyn 2012. Felly cofiwch edrych yn rheolaidd ar ein gwefan am newyddion a diweddariadau.
I gael mwy o wybodaeth am TAAAC cliciwch ar y ddolen isod.


