Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Newyddion

16.03.2010

Disgyblion Yng Nghymru Wedi Cael Llais Newydd

Joe Ledley, yn rhoi ei gefnogaeth i digwyddiad i lansio gwefan newydd 'Disgyblion Llais Cymru'Mae un o Chwaraewyr Pêl-droed Dinas Caerdydd, Joe Ledley, wedi rhoi ei gefnogaeth i ddigwyddiad i lansio gwefan newydd o'r enw 'Llais Disgyblion Cymru' i blant, pobl ifanc ac oedolion mewn sefydliadau addysgol yng Nghymru.

Gall plant, pobl ifanc a staff ddefnyddio gwefan 'Cyrraedd y Nod', sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop, i rannu gwybodaeth, gwneud sylwadau, gofyn cwestiynau a chyhoeddi astudiaethau achos ynglŷn â’r rhan y maent yn ei chwarae yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt mewn sefydliadau dysgu ledled Cymru.

Mae cystadleuaeth clip fideo, ‘Eich Dyfodol, Eich Dyumuniad’, hefyd wedi'i chyhoeddi ar y wefan heddiw [dydd Mawrth 9 Mawrth 2010], ac mae’n agored i bob plentyn a pherson ifanc 3 – 18 oed ledled Cymru.

Meddai Joe Ledley: "Fe all pobl ifanc ddefnyddio technoleg a rhyngweithio â hi mewn ffyrdd na allen ni eu dychmygu ychydig flynyddoedd yn ôl.

"Mae cymryd rhan mewn gwefannau diogel fel hon, sy’n cael ei rheoli, yn gallu bod yn llawer o sbort ac yn ffordd wych o ddysgu sgiliau TG newydd.

"Mae hefyd yn bwysig iawn i bobl ifanc leisio'u barn a dysgu'n gynnar eu bod nhw'n gallu gwneud gwahaniaeth drwy gymryd rhan a chyfrannu mewn ffyrdd gwahanol – er enghraifft, drwy gynghorau ysgolion, eco-grwpiau, ysgolion iach a fforymau ieuenctid."

Bu’r Dirprwy Weinidog, Huw Lewis, a Chomisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, yn siarad â disgyblion yn Ysgol Gynradd Kitchener yng Nghaerdydd yn y digwyddiad i lansio'r wefan a'r gystadleuaeth.

Meddai Huw Lewis: "Mae technoleg wedi'i chwyldroi yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Rydyn ni'n gwybod bod cyfathrebu mewn ffyrdd cyflym, difyr a rhyngweithiol yn ail natur - yn enwedig i'n plant a'n pobl ifanc.

"Drwy lansio'r wefan hon, rydyn ni am annog rhagor o blant a phobl ifanc i gymryd rhan yn y gwaith o wneud penderfyniadau a rhannu arferion da - ac i gael hwyl wrth wneud hynny!

"Rydyn ni'n gweld y wefan hon fel cymuned fywiog a deniadol y gall pobl gymryd rhan ynddi, lle gall plant, pobl ifanc ac oedolion rannu syniadau ac enghreifftiau o sut y gallwn ni ddatblygu cymunedau ysgol mwy effeithiol sy'n gwrando, ac sy'n diwallu anghenion pawb."

Meddai Keith Towler: "Mae cyfranogiad disgyblion wedi cynyddu'n sylweddol mewn ysgolion ledled Cymru yn ystod y saith mlynedd diwethaf, ac mae Estyn wedi cydnabod bod hyn yn rhan hanfodol o addysg.

"Mae pob ysgol a phob plentyn yn wahanol, a bydd y dulliau a gaiff eu defnyddio i ennyn diddordeb plant a'u hannog i gymryd rhan yn wahanol. Dw i'n gobeithio y bydd y wefan newydd hon yn galluogi mwy o blant a phobl ifanc i gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd ysgol sy'n effeithio arnyn nhw, ac y bydd hefyd yn galluogi'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda nhw i rannu arferion gorau fel bod cyfranogiad plant yn cael ei gryfhau ledled Cymru.”

Mae Llais Disgyblion Cymru yn disodli gwefan Cynghorau Ysgolion Cymru a gafodd ei lansio yn 2006. Yn 2008, comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru waith ymchwil i gael adborth ar y wefan drwy ymgynghori â phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.

O ganlyniad i'r adborth, mae'r wefan newydd yn anelu at fod:

  • yn fwy rhyngweithiol gyda fforymau, ystafelloedd sgwrsio a thudalennau i aelodau
  • yn fwy lliwgar a difyr
  • yn fwy eglur ac yn haws i’w defnyddio
  • wedi'i theilwra at ddisgyblion o wahanol oedrannau
  • yn llai o ran ei chynnwys – ond yn canolbwyntio ar annog ysgolion cyfan i gymryd rhan – yn hytrach na chynghorau ysgolion yn unig.

Bydd y gystadleuaeth a gafodd ei chyhoeddi heddiw yn agored i ddisgyblion o oedran ysgol gynradd ac uwchradd. Bydd pedwar enillydd rhanbarthol ym mhob un o'r ddau gategori ledled Cymru. 

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website