Newyddion
06.01.2012
Offeryn Hunanwerthuso ar gyfer Llais Disgyblion yng Nghymru
Rydym wedi datblygu Offeryn Hunanwerthuso i helpu ysgolion i gasglu tystiolaeth am lwyddiannau a gwelliannau sy’n deillio o lais y disgybl. Gall staff, rheolwyr uwch, llywodraethwyr a disgyblion ddefnyddio’r offeryn – nail ai fel rhan o arolygiad gan Estyn neu yn ystod proses hunanwerthuso blynyddol yr ysgol.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau defnyddio’r offeryn hwn. Mae gennym ddiddordeb mewn gwybod sut yr ydych wedi’i ddefnyddio i fapio a gwella eich cynnydd, ac i werthuso canlyniadau i’r disgyblion, y staff a’r ysgol. Gallwch anfon adborth ac awgrymiadau ar sut i wella’r offeryn hwn drwy e-bostio: childrenandyoungpeoplesrights@wales.gsi.gov.uk


