Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
STRING_114
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Newyddion

09.04.2010

Ymgyngoriadau

Mae ymgynghori yn rhoi’r cyfle ichi gael dweud eich dweud am ddatblygiadau newydd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cyflwyno.

 

Pam rydym yn ymgynghori

Mae ymgynghori yn ein helpu i ddeall sut y gallai deddf neu bolisi effeithio arnoch chi. Mae'n ein helpu i glywed eich barn chi a chael gwybod am unrhyw syniadau neu awgrymiadau a allai fod gennych. Rydym yn ymgynghori gan fod eich mewnbwn chi yn ein helpu i wella ein syniadau a llywio ein gwaith i wneud polisïau yn fwy effeithiol.

 

Sut rydym yn ymgynghori

Gallwn ymgynghori mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft drwy:

•bapurau ysgrifenedig
•cyfarfodydd cyhoeddus
•grwpiau ffocws a
•holiaduron.
Pan gaiff ymgynghoriad newydd ei lansio, rydym yn sicrhau bod y dogfennau perthnasol ar gael i sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb ym maes yr ymgynghoriad. Rydym hefyd yn cyhoeddi manylion pob ymgynghoriad ffurfiol ar ein gwefan er mwyn i unrhyw un sydd â diddordeb gael gweld y dogfennau.

Nid oes cyfnod penodedig o ran hyd ymgyngoriadau, ond mae'r rhan fwyaf yn para tua 12 wythnos. Bydd gan bob ymgynghoriad ddyddiad dechrau a gorffen clir.

 

Beth sy'n digwydd pan ddaw'r ymgynghoriad i ben

Rydym yn darllen pob ymateb ac yn ystyried pob safbwynt fel rhan o'r broses o lunio polisi.

Yna rydym yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion, neu'r ymatebion unigol eu hunain, ar ein gwefan ac yn cadw copïau yn ein llyfrgell (rydym yn eu cadw'n ddienw lle gofynnir inni wneud hynny). Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd yn cyhoeddi manylion am sut mae'r ymgynghoriad yn cael ei ddatblygu.

Gweler ein ymgynghoriadau cyfredol
 

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website