Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Cymryd Rhan

Mae’na fwy i gyfranogi na phobl yn gofyn eich barn. Dylai fod amrywiaeth o bethau y gallwch fod yn rhan weithredol ohonynt yn eich ysgol, os ydych chi eisiau.

Rhai o’r rhain, ar wahan i gyngor ysgol, yw:

  • Grwpiau i wneud awgrymiadau am sut i wella dysgu ac addysgu;
  • Ysgolion iach;
  • Pwyllgorau eco;
  • Mentoriaid cyfoedion neu ‘Bydis’;
  • Grwpiau SNAG (School Nutrition Action Groups).

Mantais o berthyn i grwpiau felly yw eich bod chi yn cael gwneud gwahaniaeth i’ch ysgol – er eich mwyn chi ac eraill. Gall hyn fod yn foddhaol iawn.

 

Y mae chwarae rôl gweithredol mewn grwpiau hefyd yn eich helpu i ddatblygu hunan-hyder a sgiliau pwysig fel:

  • Gwrando;
  • Mynegi safbwynt;
  • Negydu;
  • Sgiliau trefnu a chyllido;
  • Gweithio mewn tîm.

Wrth gwrs, nid oes rhaid i chi gymryd rhan! Mae hi’n bwysig cael dewis – ond rydym yn gobeithio y cewch gyfranogiad yn hwyl ac y byddwch chi ar eich ennill hefyd!

 

Dolleni

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website