Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Cael Llais

Dylai fod llawer iawn o gyfleoedd i chi leisio barn yn eich ysgol chi. Un ffordd o leisio barn yw trwy ymgynghoriadau.

Y mae ymgynghoriad yn digwydd pan fydd pobl am wybod eich barn am bolisi newydd neu rywbeth a fydd yn effeithio ar eich bywyd. Weithio gofynnir am eich barn mewn ymgynghoriadau hefyd – er enghraifft, gallai’ch cyngor lleol ofyn i chi wneud awgrymiadau am y fath o weithgareddau hamdden yr hoffech eu gweld yn eich ardal chi.

Trwy gymryd rhan mewn ymgynghoriad rydych yn sicrhau bod gwasanaethau yn fwy effeithiol, oherwydd maen nhw yn cwrdd â’ch anghenion chi, nid rhai a ddychymwyd gan oedolion!

O bryd i’w gilydd ar yr adran hon o’r wefan, dewch o hyd i ymgynghoriadau Llywodraeth Cynulliad Cymru am bethau y gallwch fod â barn neu syniadau amdanynt. Os oes gennych ddiddordeb, ymatebwch, a gofynnwch i’ch ffrindiau wneud yr un peth.

Gall oedolion ofyn am eich barn mewn sawl ffordd yn eich ysgol chi – er enghraifft:

  • arolygon neu holiaduron;
  • grwpiau ffocws: grwpiau bychan yw’r rhain lle gallwch drafod eich barn neu syniadau yn anffurfiol;
  • gweithdai;
  • blychau awgrymiadau.

Os nad yw hyn yn digwydd yn eich ysgol chi, gofynnwch i’ch cynrychiolydd cyngor ysgol godi’r mater hwn mewn cyfarfod.

Os ydy pobl yn gofyn am eich barn – cofiwch y dylech gael gwybod beth sydd yn digwydd fel canlyniad!

Mae’n bosibl na chewch chi’r hyn yr oeddech chi eisiau, ond o leiaf dylai pobl ddweud wrthych y rhesymau y tu ôl i benderfyniadau.

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website