Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Ysgol Gynradd Llangyfelach: Menter yr Ifainc

Mae’r disgyblion yn cymryd rhan lawn wrth arwain y dysgu drwy’r cyd-destunau ar gyfer dysgu a’r ffyrdd y maent yn ymdrin â’n cwricwlwm sy’n seiliedig ar sgiliau. Gallwn adrodd am nifer o bynciau sydd wedi’u gyrru gan blant a arweiniodd at safonau uchel o ddysgu. Un o’r rhain oedd pwnc ar siocled a awgrymwyd gan y disgyblion a wnaeth gais am wibdaith i Cadbury World ar ddechrau’r tymor. Our chocolate bar

Roeddwn i wedi rhagweld prosiect ar fasnach deg ond roedd y plant am greu eu siocled eu hunain, yn cynnwys y pecynnu a’r hysbysebu. Gyda chymorth cwmnïau lleol trodd y prosiect allan yn ardderchog ac roedd y safonau a gyrhaeddwyd yn uwch na lefel 5.

Roedd y disgyblion yn llwyr reoli eu dysgu ac roedd hyn yn ddechrau ar ffordd newydd o weithio yn ein hysgol.

“Rydym wrth ein boddau yn dysgu fel hyn. Rydym yn teimlo mai ni sy’n rheoli pethau. Mae Miss yn grêt achos mae’n ei wneud yn hwyl ac yn ymddiried ynom i wneud y penderfyniadau.” – Sion Johnson

“Rydym yn dysgu gymaint amdanom ein hunain pan fyddwn yn gweithio fel hyn” – Claire Griffith

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website