Ysgol Gynradd Llangyfelach: Adeiladu'r Cwricwlwm Technoleg Gwybodaeth ar y Cyd
Wrth adolygu ein polisi TGCh gofynnais i’r disgyblion am eu gweledigaeth am TGCh yn ein Hysgol ac yna adlewyrchu’r rhain yn ein nodau. Fe wnaed hyn ym mhob dosbarth o’r feithrinfa i Flwyddyn 6. Yna gwnaed dogfen ddrafft, mewn iaith i blant, o’r weledigaeth a’r nodau ac yna fe’i rhoddwyd yn ôl i’r plant i’w thrafod. Gwnaed rhai newidiadau pwysig yn ystod y cyfnod cydweithredol hwn.
Fe wnaeth yr holl broses alluogi i blant deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac fe roddwyd perchnogaeth o TGCh iddynt yn Llangyfelach. Yn awr, mae’r weledigaeth yn cael ei rhannu gan holl gymuned yr ysgol.

“Roedd hi’n grêt bod pobl yn gwrando ar ein barn – wedi’r cwbl, arnom ni y mae’n effeithio” – Sian Brooks
“Fe wnaethom yn siŵr bod y gair diogelwch yn cael ei ddefnyddio” – Tegan Scannell
“Fe gafodd bawb gyfle i ddweud yr hyn yr oeddent yn ei feddwl” – Ross Evans


