Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Ysgol Gynradd Cae Top

Cymunedau Dysgu Disgyblion a Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion (Ffey):

Mae’n bosibl mai elfen fwyaf cyffrous gwaith Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion yn Ysgol Cae Top oedd creu grŵp effeithiolrwydd plant. Ar ôl treialu’r cysyniad yn yr ysgol yn y lle cyntaf, cafodd ei ymestyn i bedair ysgol arall, a sefydlwyd grwpiau yn cynnwys disgyblion o groestoriad o alluoedd a chefndiroedd cymdeithasol.

Gofynnwyd i’r grŵp effeithiolrwydd plant ystyried fersiwn y plant o’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion a thrafod pob elfen a amlinellwyd ar y ’pizza’ FfEY. Ymwelwyd â phob ysgol er mwyn cychwyn y gwaith gyda’r plant, a gofynnwyd ‘pam fod eich ysgol yn ysgol effeithiol?’ a ‘sut allwn ni wneud ysgol effeithiol yn fwy effeithiol?’

Roedd y disgyblion yn deall y byddent yn helpu i ystyried sut i wneud eu hysgol yn fwy effeithiol, y byddai eu holl safbwyntiau yn cael eu hystyried a’u parchu, ond nad oedd sicrwydd y byddai’r ysgol yn gallu ymateb i’w holl ddymuniadau! Gwelwyd yn syth bod yr holl ddisgyblion yn gadarnhaol iawn wrth drafod eu hysgolion.

Cymuned Dysgu Disgyblion Cae Top

Rhannwyd y disgyblion yn barau a gofynnwyd iddynt ddewis elfen o’r ‘pizza’ i ganolbwyntio arni. Ar ôl rhannu elfennau’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion ymysg y grŵp, aeth y plant ati i weithio, heb unrhyw arweiniad ac eithrio gwybodaeth am sut i gasglu data (fel holi cyd-ddisgyblion, cynorthwywyr cinio, rhieni a llywodraethwyr ac ati). Bythefnos yn ddiweddarach daethant ynghyd eto gerbron tîm arolygu’r ysgol i gyflwyno eu hadborth. Roedd y rhan fwyaf o’r arsylwadau yn gadarnhaol, ond roedd gan y grŵp rai awgrymiadau hefyd:

Roedd y cytundeb ysgol-cartref a’r rhesymau dros ei fodolaeth yn ymddangos yn aneglur; felly aeth yr ysgol ati i’w symleiddio.

Roedd dull yr ysgol o ymdrin ag adroddiadau diwedd blwyddyn (wedi’u selio ar gyfer rhieni) yn amhoblogaidd; felly aeth yr ysgol ati i adolygu’r holl weithdrefn ar gyfer adroddiadau, gan geisio gwneud y sefyllfa’n fwy cadarnhaol a chyflwyno cynllun oedd yn apelio at blant. Cafodd y system hon adborth cadarnhaol iawn gan benaethiaid eraill ac mae bellach wedi’i mabwysiadu gan ysgolion eraill.

Mae adborth gan rieni ynglŷn â’r adroddiadau newydd sy’n apelio at ddisgyblion wedi bod yn rhagorol; mae’r fformat newydd fel pe bai wedi apelio at rieni a oedd yn anodd eu cyrraedd o’r blaen yn ogystal â rhieni mwy gweithgar a oedd yn hoffi i’w plant fod yn rhan o’r proses, a’r ffaith fod eu plant yn teimlo’n falch yn hytrach nag yn bryderus adeg yr adroddiadau.

Cymuned Dysgu Disgyblion Rhwng Ysgolion

Cafodd timau disgyblion holl ysgolion y grŵp Cymuned Dysgu Proffesiynol eu dwyn ynghyd yn Ysgol Cae Top yn ystod tymor yr haf i rannu arferion da, gwneud ffrindiau newydd a chael hwyl. Cafwyd cyflwyniad PowerPoint gan bob tîm yn trafod gwaith y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion yn eu hysgol. Ar ôl hynny, cawsant eu gwahanu yn bum grŵp er mwyn mynd o gwmpas yr ysgol ac ystyried dau gwestiwn allweddol: ‘beth sy’n gwneud ysgol effeithiol?’ a ‘sut allwn ni wneud ysgol effeithiol yn fwy effeithiol?’ Daeth i’r amlwg bod ysgolion wedi gweithredu’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion mewn ffyrdd gwahanol, ac arweiniodd hyn at sawl trafodaeth ddiddorol.

Cymuned Dysgu Disgyblion Dysgu ac Addysgu Cae Top

Gofynnwyd i’r grŵp disgyblion ystyried Dysgu ac Addysgu yn benodol yn yr ysgol. Cerddodd y grŵp drwy’r ysgol, gan ganolbwyntio ar y berthynas rhwng athrawon a disgyblion (a chwilio am yr elfennau cyffrous). Y cwestiwn dan sylw oedd: ‘Beth sy’n gwneud i blentyn ddeffro yn y bore a theimlo’n gyffrous wrth fynd i’r dosbarth?’ Roedd rhai athrawon ychydig yn bryderus ar y dechrau, ond roedd yn brofiad cadarnhaol iawn i bawb yn y pen draw, gyda’r holl staff yn cydweithredu’n llawn. Mwynheuodd y disgyblion y profiad yn fawr, a dilyswyd eu gwaith pan gafodd eu mewnbwn ei ystyried yn llawn gan y staff. Un enghraifft oedd barn grŵp o blant nad oedd eu syniadau’n cael eu gwerthfawrogi yn y dosbarth. Roedd llawer o ddisgyblion yn credu nad oedd eu safbwyntiau’n cael eu gwerthfawrogi wrth i’r athro wrando ar ychydig o ymatebion yn unig mewn dosbarth lle’r oedd pawb yn awyddus i ateb. Ymateb y staff oedd gwneud ymdrech ymwybodol i ddefnyddio mwy o weithgareddau oedd yn canolbwyntio ar ddisgyblion, ymgorffori trafodaethau pâr a grŵp rheolaidd a defnyddio system bleidleisio Senteo ar Smartboard. Mae disgyblion bellach yn gweithio gyda dau lywodraethwr etholedig i ddatblygu eu syniadau; mae hyn yn cynnwys cynnig clybiau ar ôl ysgol mwy amrywiol, gan fod y clybiau presennol yn ymwneud â chwaraeon yn bennaf.

Corff Llywodraethol Cymuned Dysgu Disgyblion

O ganlyniad i gyflwyno’r Proffeil Effeithiolrwydd Ysgolion (SEP) i reolwyr y Gymuned Dysgu Proffesiynol a chyflwyno syniadau am y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion i staff a llywodraethwyr Ysgol Dewi Sant, gofynnodd llywodraethwyr o’r ddwy ysgol am gyfarfod i drafod gwella effeithiolrwydd. Mae’r ddau gorff llywodraethol wedi ymweld ag ysgolion ei gilydd ac yn cydweithio i ystyried y SEP a Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn, i weld sut gall llywodraethwyr helpu rheolwyr ysgolion i weithredu’r system hunanwerthuso newydd.

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website