Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Fforwm Plant Caerffili

Beth yw’r Fforwm Iau?

Mae’r Fforwm Iau yn fecanwaith parhaus ar gyfer cynnwys plant yn y broses o wneud penderfyniadau ar lefel sirol. Nod y Fforwm Iau yw rhoi cyfleoedd i blant gael llais ar faterion sy’n cael effaith arnynt ac i gymryd rhan weithgar mewn gweithgareddau sy’n hybu dinasyddiaeth a datblygiad sgiliau personol a chymdeithasol.

Sut bydd y Fforwm Iau yn gweithio?

Yng Nghaerffili mae 69 o ysgolion gyda dosbarthiadau o ddisgyblion blwyddyn 3 i 6, h.y. plant rhwng 7 ac 11 oed. Gall pob un o’r ysgolion hyn gael dau gynrychiolydd ar y Fforwm Iau, a ddewisir drwy bleidlais gan y plant yn eu hysgolion. Bydd y cynrychiolwyr yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn; unwaith bob tymor.

Pwy sy’n cefnogi’r Fforwm Iau?

Bydd y Swyddog Cyfranogiad Plant (SCP), sy’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn cefnogi’r Fforwm Iau ac yn gweithredu fel person cyswllt i ysgolion a chynrychiolwyr.

Beth yw rôl Ysgolion Cynradd?

Mae ysgolion cynradd yn barter allweddol yn llwyddiant y Fforwm Iau, felly mae’r SCP wedi gwneud ymdrech i fynychu cyfarfodydd clwstwr penaethiaid i hyrwyddo’r Fforwm Iau a gwrando ar safbwyntiau penaethiaid ar sut y gellir ei ddatblygu. Mae rôl ysgolion cynradd yn cynnwys: 

  • Paratoi etholiadau teg a democrataidd ar gyfer y plant mewn ysgolion i bleidleisio dros gynrychiolwyr Fforwm Iau (gweler isod).
  • Sicrhau bod y ffurflenni caniatâd (atodiad 1) yn cael eu cwblhau a’u harwyddo ganriant/gwarcheidwad ar gyfer bob cynrychiolydd gan eu hysgol. Anfonwch y ffurflennicaniatâd yn ôl at sylw Hayley Scotto-D’Abusco drwy ffacs (01443 863190).
  • Cynghori ynglyˆn ag unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen ar gyfer cynrychiolwyr.
  • Cludo’r cynrychiolwyr yn ôl ac ymlaen o’r cyfarfodydd deirgwaith y flwyddyn.

Pam ddylai ysgolion gymryd rhan yn y Fforwm Iau?

Bydd llawer o ganlyniadau buddiol i blant sy’n cymryd rhan yn y Fforwm Iau. Bydd rhai canlyniadau’n cael eu mesur trwy ddefnyddio systemau monitro i asesu’r pellter a deithiwyd.
Mae’r canlyniadau buddiol i blant yn cynnwys: 

  • Ennill profiad o ddemocratiaeth a dinasyddiaeth
  • Cael y cyfle i fynegi safbwyntiau, barnau a bod yn rhan o broses o wneudpenderfyniadau.
  • Cyfarfod ffrindiau newydd a chael hwyl.
  • Magu hyder, hunan-barch ac uchelgeisiau.
  • Cael y cyfle i ymarfer sgiliau bywyd pwysig fel datrys problemau, gwneudpenderfyniadau, trafod, gwrando a rhoi adborth.

Manylion cyswllt:

Enw: Hayley Scotto-D’Abusco

Rhif ffôn: 01443 863190

E-bost: scotth1@caerphilly.gov.uk

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website