Canllaw Arfer Da: Uwch-Gyngor Blaenau Gwent
Dull cydgysylltiedig o drin grwpiau sy’n cynrychioli disgyblion, gan ymgynghori ledled y Sir
“Os den ni eisiau gwneud pethau’n iawn, a gwneud penderfyniadau gwell, mae’n rhaid i ni wrando ar y rheiny sy’n defnyddio’r gwasanaeth.” - David Rees
Mae cynrychiolwyr y disgyblion yn ymgynghori ar y materion sy’n effeithio arnyn nhw. Nhw sy’n gosod yr agendâu ac yn cadeirio’r cyfarfodydd. Yn achos y Strategaeth Chwarae, aeth y disgyblion â chamerâu yn ôl i’w hysgolion i ymgynghori â’u cyfoedion, gan ddod â’r wybodaeth yn ôl at ei gilydd i ddarparu sail ar gyfer y Strategaeth.


