Canllaw Arfer Da: Teledu Glyncollen....Be’ nesa’!
Polisïau ac arferion ysgol gyfan / cyfannol
“I mi, y pleser mwyaf yw gweld plant yn tyfu i ddod yn ddinasyddion ifanc annibynnol sy’n gallu meddwl drostyn nhw eu hunain, cyfleu eu barn a chasglu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i chwarae rhan fel oedolion yn y dyfodol” - Anna Bolt
Fel ysgol, maen nhw bob amser yn edrych am ffyrdd i wella’u ffordd o weithio sydd bellach yn golygu edrych ar ddod â’r enfys o hawliau ynghyd mewn un arfer hydrin, deallus a chydlynol i wneud yn siŵr bod llais disgyblion yn rhan annatod o fywyd ysgol.


