Canllaw Arfer Da: Ysgol Gynradd Rhosddu
Cyfranogiad yn y Cyfnod Sylfaen
“Wrth gynllunio gwersi, den ni’n cynnwys y plant mewn llawer o benderfyniadau ynglŷn â lle mae’r pwnc yn arwain, felly os den ni’n penderfynu ar bwnc ymbarél, mae’r plant yn dweud wrthon ni lle maen nhw eisiau mynd o’r fan honno. Den ni’n cynllunio ac yn gwneud ac yn dilyn yr hyn y mae’r plant yn ei benderfynu ...felly nhw yw’r penderfynwyr.” - Gaynor Purcell
Mae’r disgyblion yn ymwneud â chynllunio gwersi a gwneud penderfyniadau yn yr ysgol gyfan. Mae’r ffilm yn trafod sut mae hyn yn cael ei gyflawni a sut mae sgiliau’r disgyblion yn cael eu datblygu.


