Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Astudiaethau achos

 

Mae ar blant a phobl ifanc eisiau gwneud gwahaniaeth! Mae llawer o blant a phobl ifanc eisoes wedi bod yn cymryd rhan mewn digwyddiadau a grwpiau sy’n gwneud gwelliannau ar faterion y maent yn teimlo’n gryf amdanynt. Mae dysgu o brofiadau pobl eraill yn beth pwerus, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd rhywbeth sydd o ddiddordeb i ti yma. Mae’r astudiaethau achos ar y chwith yn dangos sut mae disgyblion wedi gwella eu dysgu a’u hamgylchedd mewn ysgolion ledled Cymru.

Os wyt ti’n meddwl dy fod ti neu dy ysgol yn cyfrannu at wneud gwahaniaeth, lawrlwytha’r templed astudiaeth achos lawrlwytha’r templed astudiaeth achos isod a dyweda wrthym beth yn union yr wyt ti’n ei wneud drwy ebostio: childrenandyoungpeoplesrights@wales.gsi.gov.uk

Templed Astudiaeth Achos (doc. 1.97 MB)

"Athroniaeth i Blant" - Ysgol Gynradd Login Fach:

Yn Ysgol Login Fach yn Abertawe, defnyddir Athroniaeth i Blant i helpu plant i leisio eu barn, i gyd-weithio ac i wneud penderfyniadau fel grwp.

"Partneriaeth a Pherthynas" - Ysgol Bro Morgannwg:

Mae'r clip DVD hwn yn dangos sut mae datblygu llais y disgybl yn gwella perthynas rhwng staff a disgyblion, ac yn helpu pobl ifanc i fagu hyder a chwarae rol arwyddocaol yn eu cymuned ysgol.

"Sicrhau Llais i bob Disgybl" - Ysgol Hafod Lon:

Yn Ysgol Hafod Lon mae llais pob disgybl yn cyfrif ac yn gwneud gwahaniaeth. Edrychwch ar y DVD i weld sut mae hyn yn digwydd.

 
 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website