Pam Cyfranogi?
Y mae plant a phobl ifanc sydd yn cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau yn dweud wrthym ei bod hi’n beth da i’w wneud oherwydd eu bod nhw:
- yn teimlo bod pobl yn gwrando arnyn nhw;
- yn gwybod bod eu barn yn cyfrif;
- yn ennill sgiliau pwysig fel gwrando ar eraill, leisio barn yn effeithiol a gweithio mewn tîm;
- yn dod ymlaen yn well gydag oedolion;
- yn gweld canlyniadau;
-
…. ac oherwydd ei bod hi’n hwyl!
Edrychwch ar y Canllawiau Arfer Gorau ar yr ochr dde i weld beth mae disgyblion wedi’I gyflawni yng Nghymru.
Rhannwch eich llwyddiant chi! Dywedwch wrthym ni sut mae cyfranogiad disgyblion wedi gwneud eich ysgol yn lle gwell trwy anfon e-bost at: childrenandyoungpeoplesrights@wales.gsi.gov.uk


