Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Hawliau Ni Ein Stori Ni

Ar ddydd Mawrth 20fed Tachwedd 2007, roedd Draig Fynci’n falch iawn o lansio ‘Ein Hawliau Ni, Ein Stori Ni’ i’r byd ar ddiwrnod arbennig iawn - Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Plant.

Pupil at Waunarlywdd Primary SchoolAr ôl 18 mis o waith caled gan bawb fu’n cymryd rhan, safodd aelodau’r Grŵp Llywio o flaen ystafell orlawn yng Nghanolfan y Mileniwm a rhoi cyflwyniad gwych ar ganfyddiadau ‘Ein Hawliau Ni, Ein Stori Ni’ a’r Adroddiad Plant, ‘Pam fod Oed Pobl yn Mynd Fyny Ddim Lawr?’

Cynhaliwyd y lansiad ar gyfer y cyfryngau mewn cydweithrediad ag Achub y Plant oedd yn lansio’r adroddiad ‘Aros, Edrych, Gwrando: Sut Mae Gwireddu Hawliau Plant yng Nghymru’ - a gyhoeddwyd gan Achub y Plant a Grŵp Monitro’r UNCRC sef Adroddiad Amgen Cyrff Anllywodraethol Cymru sy’n cael ei anfon i’r Cenhedloedd Unedig. Galli lawrlwytho copi o’r adroddiad ar waelod y dudalen hon.

Cadeiriwyd y digwyddiad gan Richard Powell (Pennaeth Amddiffyn Plant y Byd) a chafwyd siaradwyr gwadd, sef Keith Towler (Cyfarwyddwr Rhaglen Achub y Plant yng Nghymru a Chadeirydd Grŵp Monitro’r UNCRC), Jane Hutt (Y Gweinidog ar gyfer Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau) a Maria Battle (Y Comisiynydd Plant Gweithredol).

Group of pupils at a secondary school in LlandysulMae Draig Ffynci wedi ymgynghori gyda dros 10,000 o bobl ifanc 11-15 oed yng Nghymru a dros 2,000 o blant 7-10 oed er mwyn gwneud yn siŵr bod yr adroddiadau’n llawn o’r wybodaeth gywir, sy’n adlewyrchu’r ffordd mae plant a phobl ifanc yn derbyn eu hawliau yng Nghymru.

Mae’r adroddiad wedi’i ganmol fel llwyddiant mawr a mewnwelediad gwych i’r materion a drafodir ynddo – sef addysg, cyfranogiad, gwybodaeth, iechyd a diddordeb penodol. Nawr bydd y grŵp llywio’n mynd â’r adroddiad i Genefa a’i gyflwyno’n bersonol i’r Cenhedloedd Unedig.

Galli lawrlwytho’r adroddiad o waelod y dudalen hon, neu os hoffet ti gael copi caled neu mwy o wybodaeth, ffonia’r swyddfa ar 01792 450 000.

Dolenni:

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website