Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Beth yw Cyngor Ysgol?

Grŵp o ddisgyblion yw cyngor ysgol, wedi’u hethol gan eu cyd-ddisgyblion i gynrychioli eu barn a chodi materion gyda prifathro / brifathrawes a llywodraethwyr yr ysgol. Gall cyngor yr ysgol hefyd fwrw ymlaen â phrosiectau ar ran y disgyblion, a chyfrannu at gynllunio ac at bethau fel Cynllun Datblygu’r Ysgol, cyfarfodydd y corff llywodraethu a chyfweld â staff.

I fod yn effeithiol, rhaid i gyngor ysgol:

  • Gynrychioli yr holl ddisgyblion a chynnwys cymaint o bobl a phosibl;
  • Gymryd amser i wrando ar yr holl ddisgyblion ac i gyfleu eu barn;
  • Ddweud wrth ddisgyblion beth ddigwyddodd ar ôl iddynt roi barn;
  • Wneud i bethau ddigwydd – neu esbonio pam nad yw hyn yn bosibl!

 

Cyngor Craff am Gyngor Ysgol Effeithiol

Rhaid sicrhau bod:

  • Etholiadau yn deg ac yn agored;
  • Pawb wedi’i gynrychioli (e.e.trwy gyfetholiadau);
  • Gwahanol ffyrdd i bobl leisio barn (e.e. amser yn yr ystafell ddosbarth, blychau awgrymiadau, holiaduron, grwpiau ffocws …..);
  • hyfforddiant yn ei le;
  • cyfathrebu yn effeithiol, fel bod pobl yn gwybod beth sydd yn digwydd i’w hawgrymiadau a’u syniadau;
  • canlyniadau i’w gweld!

Gadewch i ni wybod beth mae’ch cyngor ysgol chi yn ei wneudt rwy gysylltu â: childrenandyoungpeoplesrights@wales.gsi.gov.uk

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website