Beth yw Cyfranogiad Disgyblion?
Y mae cyfranogiad disgyblion yn ymwneud â’r holl ffyrdd sydd gennych i fynegi eich barn a chymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau yn eich ysgol chi. Mae cael cyngor ysgol gweithgar yn rhan o hyn, ond dim ond un ffordd o gymryd rhan ydyw.
Dylai cyfranogiad disgyblion ddigwydd mewn llawer o ffyrdd yn eich ysgol chi.
Dyma rai ohonynt:
- Cael dweud eich dweud am yr hyn rydych yn ei ddysgu a sut;
- Pobl yn gofyn eich barn trwy ymgynghoriadau, holiaduron, amser cylch, grwpiau ffocws, blychau awgrymiadau;
- Grwpiau megis cyngor yr ysgol, yr eco-bwyllgor, ysgolion iach a mentoriaid cyd-ddisgyblion (‘Bydis’);
- Sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fod yn rhan;
- Defnyddio’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad.
Mae’na lawer o sôn yng Nghyrmu am sut y gallwn wella ysgolion. Mae gan ddisgyblion ran i’w chwarae yn y sgwrs hon hefyd. Am syniadau sut y gallwch fod yn rhan, cliciwch ar ddolen ‘Effeithiolrwydd Ysgolion’ ar y ochr dde.


