Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Amdanon ni

 

Mediation group at Gnoll Primary SchoolMae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yn credu bod gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i fod yn ddiogel, yn hapus ac yn iach ac i ddatblygu eu sgiliau a’u potensial drwy gyfrwng addysg. Er mwyn dangos ein bod o ddifri ynglŷn â hyn, rydym wedi llofnodi rhywbeth o’r enw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (y Confensiwn). Mae un o’r hawliau yma ("Erthygl 12") yn dweud y dylai plant a phobl ifanc gael dweud eu dweud pan fydd pobl yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Mae’r tîm cyfranogiad disgyblion yn LlCC yn gweithio i gefnogi dy lais di yn yr ysgol drwy gynnig gwefan sy’n ddefnyddiol, yn gymdeithasol, yn hwyliog ac yn ddifyr. Nod y safle yw rhoi’r wybodaeth a’r deunyddiau y bydd arnat eu hangen i wneud y gorau o gyfleoedd i chwarae rhan fwy gweithgar yn dy ysgol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn help iti weithio gydag oedolion i wneud dy ysgol di’n lle gwell.

Yn yr adran hon o’r wefan galli di ddysgu mwy am y Confensiwn, beth yw cyfranogiad plant a phobl ifanc, pam mae’n beth da i’w ddatblygu, a beth sy’n digwydd yng Nghymru i dy gefnogi di i allu lleisio dy farn yn yr ysgol.

Er mwyn rhoi gwybod i ni pa bethau sy’n digwydd yn eich ysgol chi i sicrhau bod plant yn cael cyfle i chwarae rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, rhaid anfon astudiaethau achos i: childrenandyoungpeoplesrights@wales.gsi.gov.uk

Joia!

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website