Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

 
 
STRING_114
Click here to download the questionnaire Facebook App
 

Digwyddiad Cynghorau Ysgolion Cynradd Barnardos

Ym mis Chwefror 2012, yn dilyn llwyddiant y Digwyddiad Cynghorau Ysgol y llynedd, bydd dros 100 o blant ysgolion cynradd ledled y ddinas yn dod unwaith eto i Fae Caerdydd i ddathlu llais plant. Bydd y diwrnod yn gyfle gwych i gynghorau ysgol rannu arfer gorau, a bydd hefyd llu o weithgareddau llawn hwyl ar gael a chyfle i'r plant gael dweud eu dweud o ran datblygu Strategaeth Cyfranogiad Caerdydd. Y llynedd, dewisodd y plant roi’r enw ‘Plant y Ddinas’ ar y cyngor ysgol mawr hwn, ac eleni, mae ‘Plant y Ddinas’ yn fwy, yn well, ac yn creu fwy o sŵn nag erioed o’r blaen!

Darllenwch ragor i gymryd rhan, a gweld yr adroddiad ar ddigwyddiad penigamp y llynedd...

Ar 18fed Chwefror 2011, daeth dros 100 o blant o ystod eang o Gynghorau Ysgolion Cynradd o bob cwr o Gaerdydd at ei gilydd yng Nghanolfan yr Urdd, Canolfan Mileniwm Cymru, i ddathlu pwysigrwydd Cynghorau Ysgol. Trefnwyd y digwyddiad hwn gan Barnardo’s Cymru, mewn partneriaeth â Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Caerdydd.

O ganlyniad i amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl a sbri megis wal graffiti a gwneud modelau o sgrap, gweithdai ar hawliau, ac ymgynghoriadau, fe wnaeth y digwyddiad annog ac ysbrydoli’r rheini a oedd yn bresennol, a’u hathrawon cyswllt, i greu Cyngor Ysgol Mawr ar gyfer Plant Caerdydd. Caiff hyn ei ystyried yn gam pwysig i sicrhau bod llais plant yn cael ei glywed, a bod plant yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau ar lefel strategol yng Nghaerdydd. Mae sefydlu digwyddiad blynyddol yn golygu ein bod gam yn agosach at wneud hyn.

Fel y mae Tierney o Ysgol Gynradd Tongwynlais yn egluro:

“Os yw llawer o blant ar Gynghorau Ysgol yn meddwl am syniadau da...mae’n gwneud synnwyr dod â nhw at ei gilydd, ac yna fe allwn ni feddwl am syniadau gwych!”

Y llynedd, roedd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, a Sid Sloane, sydd ar CBBC, yn bresennol yn y digwyddiad, ac mae’r gwesteion eleni yn siŵr o blesio hefyd!

Bydd cyfle hefyd i’r Athrawon Cyswllt sy’n mynychu gymryd rhan mewn Gweithdy Cyngor Ysgol Effeithiol a rhannu eu barn am Gynghorau Ysgol. Gofynnir i bob cynrychiolydd ar gyngor ysgol ddod â phoster yn dangos un o lwyddiannau eu cyngor ysgol ef. Bydd hyn yn gyfle grêt i weld y gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud ledled y ddinas, a bydd yn rhoi cyfle i blant Caerdydd rannu'r hyn maent wedi'i ddysgu drwy fod ar Gyngor Ysgol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Hannah Bussicott – Swyddog Datblygu Cyfranogiad ar gyfer Plant Iau

Ebost: hannah.bussicott@barnardos.org.uk

Ffon: 02920 229585

 
 

Our community:

Click to see us on TwitterClick to see us on You TubeClick to see us on My SpaceClick to see us on BeboClick to see us on FacebookSee us on Flickr
Click to view the Welsh Assembly Government websiteClick to view the Clic websiteLogo Consortiwm CyfranogiClick to view the Funky Dragon website