Canllaw Arfer Da: Ysgol Bodedern
Rôl llywodraethwr dynodedig
“Mae’n llawer o waith ond mae’n werth chweil yn y pen draw” - Iestyn
Yn Ysgol Bodedern, mae’r cyfathrebu rhwng y disgyblion a’r Llywodraethwyr yn bwysig iawn. Mae Catrin ac Iestyn yn gynrychiolwyr ar y Bwrdd Llywodraethu. Maen nhw’n deall cyfrifoldebau’r rôl ac yn rhannu eu hawgrymiadau.




