Canllaw Arfer Da: Gwobrau Llais Ni
Yn dathlu ymwneud plant a phobl ifanc
“Mae’n rhoi’r ddelwedd bositif honno o’r hyn y gall pobl ifanc ei wneud a’r hyn y maen nhw’n ei wneud bob dydd heb i bobl sylweddoli” - Bethan Williams
Y bobl ifanc eu hunain sy’n cynllunio ac yn trefnu seremoni wobrwyo Llais Ni, ac mae’n gyfle gwych i bawb ledled Ynys Môn chwarae rhan mewn pethau sydd o ddiddordeb iddyn nhw.




