Neidio i'r prif lywio

Cynghorau Ysgol Cymru

Preifatrwydd

Polisi Cyfrinachedd

Polisi Byr

Byddwn yn gofyn i ti am wybodaeth bersonol yn rhai rhannau o’r safle. Mae gwybodaeth bersonol yn golygu unrhyw beth sy’n gwneud hi’n bosib i dy adnabod di, megis cyfeiriad, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost.

Pam ein bod yn casglu gwybodaeth

Cysylltu â ni

Os wyt ti am ofyn cwestiwn i ni mae angen i ni gael dy gyfeiriad e-bost er mwyn ateb.

Y GYFRAITH A NI

Allwn ni ddim ond defnyddio’r wybodaeth a gawn ni gennyt ti am y rhesymau a nodir ar y safle. Os bydd y rhesymau hynny’n newid rhaid inni ddweud wrthot ti. Rhaid i ni roi copi o’r wybodaeth i ti os ofynni di am un. Mi allwn ni godi tâl arnat ti am gopïau. Rhaid i ni ddileu dy wybodaeth di oddi ar ein cofnodion os fyddi di’n rhoi’r gorau i ddefnyddio’r safle. Rhaid inni gadw dy wybodaeth yn ddiogel a pheidio â gadael i unrhyw un arall ei weld heb dy ganiatâd di.

Y GYFRAITH A TI

  • Galli ofyn am gael gweld dy wybodaeth ar unrhyw adeg.
  • Galli ofyn i ni newid yr wybodaeth sydd gennym arnat ti ar unrhyw adeg.
  • Galli ddweud wrthon ni am ddileu dy wybodaeth ar unrhyw adeg.
  • Galli gysylltu â ni ar: childrenandyoungpeoplesrights@Wales.gsi.gov.uk

neu

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
 

Policy Hir

Y math o wybodaeth ry’n ni’n ei gasglu a sut ry’n ni’n ei gasglu
Weithiau mae angen i i’n gasglu gwybodaeth bersonol am bobl. ‘D’yn ni ond yn casglu’r math hwn o wybodaeth os ydy e’n wybodaeth hanfodol. Ry’n ni’n defnyddio ffurflenni electronig i gasglu gwybodaeth amdanat ti (gan gynnwys dy gyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol) a’r un sy’n defnyddio (“ti”) gwefan Llais disgyblion Cymru. (“y wefan”) sy’n dewis llenwi ffurflenni o’r fath neu beidio.

Cysylltu â ni trwy’r wefan

Os wyt ti am gael ateb i unrhyw sylw neu gwestiwn rwyt yn ei bostio ar y Wefan, rhaid inni gael dy gyfeiriad e-bost neu wybodaeth arall ar gyfer cysylltu â thi, er mwyn inni fedru anfon ymateb. Paid â phostio dy gyfeiriad e-bost nac unrhyw wybodaeth cyswllt arall ar y wefan. Mae ein manylion cyswllt ni yn yr adran ‘amdanom ni’ ar y wefan. Os wyt ti am wneud sylw’n unig a ddim angen ateb, yna does dim rhaid iti roi gwybodaeth inni ynghylch sut i gysylltu â thi. Os na allwn ni ateb dy gwestiynau byddwn yn eu pasio mlaen i rhywun arall a all wneud hynny. Mewn achosion felly, dim ond y cwestiwn ei hun a ddatgelir ac ni roddir unrhyw wybodaeth ynghylch pwy sy’n ei ofyn.

Pledleisio

Ry’n ni’n defnyddio cookies i fonitro faint o weithiau rwyt ti wedi pleidleisio. Mae’r rhain yn cofnodi dyddiad dy bleidlais a dim arall.

Petaet ti’n e-bostio’r dudalen hon i ffrind, fydden ni ddim yn casglu unrhyw ddata o hynny. Mae dy gyfeiriad IP wedi’i logio’n otomatig gan serfiwr we Llais Disgyblion Cymru. ac fe’i defnyddir i ganfod dy ddiddordebau yn y Wefan yn unig.

Defnyddwyr dan 12

Os wyt ti dan 12, yna gwna’n siwr dy fod yn cael caniatâd dy riant neu warcheidwad ymlaen llaw pryd bynnag yr wyt ti’n rhoi gwybodaeth bersonol i’r Llais Disgyblion Cymru trwy gyfrwng y Wefan. Mae gwybodaeth bersonol yn cynnwys unrhyw wybodaeth sy’n golygu y gall rhywun dy adnabod, megis rhif ffôn, cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad cartref. Ni chaniateir i ddefnyddwyr dan 12 i roi unrhyw wybodaeth inni heb y caniatâd hwn.

Pwy sy’n casglu’r wybodaeth?

Tîm staff Llais Disgyblion Cymru. sy’n rheoli’r holl wybodaeth a gesglir ac mae angen cyfrinair i gael mynediad i bob un o’r ffeiliau.

Sut mae’r wybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio?

Cesglir pob gwybodaeth bersonol am reswm penodol a byddwn yn dweud wrthot ti beth yw hwnnw, neu mi fydd yn amlwg i ti ymhob achos beth yw’r diben. Os fydd yna unrhyw newidiadau mawr yn y ffordd yr ydym yn defnyddio dy wybodaeth bersonol, byddwn yn rhoi gwybod i ti trwy bostio hysbysiad amlwg ar ein tudalennau.

Diogelu Data

Ry’n ni wedi cymryd yr holl gamau perthnasol er mwyn cadw dy fanylion yn ddiogel ac ni fyddwn yn datgelu unrhyw ran ohonynt i unrhyw drydydd person heb dy ganiatâd.

Cysylltau i Wefannau Eraill

Mae’r wefan yn cynnwys cysylltau i wefannau eraill nad oes â wnelo nhw ddim â’r Llais Disgyblion Cymru. Nid yw’r datganiad preifatrwydd hwn yn gymwys ar gyfer y safleoedd hyn ac nid yw’r Llais Disgyblion Cymru yn gyfrifol am gynnwys ac arferion y Gwefannau hynny.

Dy ddata personol

Bydd Llais Disgyblion Cymru yn cadw dy wybodaeth bersonol ar ei systemau cyhyd â dy fod yn defnyddio’r gwasanaeth rwyt wedi gofyn amdano, ac yn ei ddileu os llwyddir i gwrdd â dy ddibenion neu os nad wyt ti’n dymuno parhau i gofrestru fel defnyddiwr personoledig.

Os oes gennyt ti unrhyw sylwadau, cysyllta â ni trwy’r safle neu ar: childrenandyoungpeoplesrights@Wales.gsi.gov.uk 
 

Os wyt ti am ysgrifennu atom ni ein cyfeiriad yw:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

Mae’r Llais Disgyblion Cymru yn cadw’r hawl i addasu, newid, neu ddiweddaru’r polisi preifatrwydd hwn. [1] Ffeil testun fach yw cookie y gall gwefan ei gosod ar ddisg caled dy gyfrifiadur er mwyn, er enghraifft, casglu gwybodaeth ynghylch dy weithgarwch ar y safle neu er mwyn gwneud hi’n bosibl i ti ddefnyddio ‘basged siopa’ ar-lein i gadw trac o’r eitemau rwyt ti’n dymuno eu prynu. Mae’r cookie yn trosglwyddo’r wybodaeth hon yn ôl i gyfrifiadur y Wefan a hwnnw, fel arfer, yw’r unig gyfrifiadur all ei ddarllen. Nid yw’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn gwybod bod cookies yn cael eu gosod ar eu cyfrifiaduron pan maen nhw’n ymweld â gwefannau. Os wyt ti am wybod pryd mae hyn yn digwydd, neu os nad wyt ti am iddo ddigwydd, galli osod dy chwiliwr (browser) er mwyn dy rybuddio pan fydd gwefan yn ceisio gosod cookie ar dy gyfrifiadur.